Ymateb y Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol i ymgynghoriad:

Y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol: blaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd

Medi 2021

Diolch am y cyfle hwn i gyfrannu i'r drafodaeth am waith y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ar gyfer y chweched Senedd, gan obeithio y gwelwch hi’n dda i ddefnyddio ein hymateb i lywio eich blaenraglen waith i'r dyfodol.

Dyma rai meysydd y credwn sydd yn fater o frys i'r Pwyllgor hwn fynd i'r afael â hwy:

1. Newyddiaduraeth

Rydym yn profi diffygion ar amrywiol blatfformau yn yr adrodd ar Gymru, a gwybodaeth anghywir yn cael ei ddarlledu yng Nghymru. Mae hyn yn arwain at ddiffyg democratiaeth difrifol.

Mae diffygion difrifol i gael hefyd ym maes newyddiaduraeth ymchwiliadol ar lefel leol ynghyd ag ar lefel Genedlaethol.

Mae angen edrych eto ar adroddiadau ac argymhellion y gorffennol* i weld beth sydd wedi cael ei wneud ond yn bwysicach – beth ddylsai fod wedi cael ei wneud, beth allasai fod wedi cael ei wneud ac hefyd, cyn bwysiced os nad yn bwysicach yw edrych ar ba bwerau pellach sydd eu hangen ar ein Senedd i unioni’r cam hwn.

Gweler wybodaeth bellach am ein sefyllfa, ynghyd ag atebion posibl ym mhwynt 1 yn y ddogfen hon: https://1drv.ms/w/s!Akod8OzjyRTzjWRkllrdVyOBSpPZ?e=9cYj78

Yn fras: Mae’r Prif Weinidog wedi sôn yn ddiweddar bod ceisio cryfhau'r cyfryngau yng Nghymru yn hanfodol ond y byddai'n anodd i'r Llywodraeth gamu i'r bwlch hwnnw'n effeithiol. Gellir gwerthfawrogi'r pwynt hwnnw ond strategaeth y cwmnïau Seisnig (sydd yn berchen ar gyfryngau Cymru) yw cynnal eu helw - yn hytrach na sicrhau bod gan gyfryngau ein gwlad ni strwythur sy'n adlewyrchiad teilwng ohoni. Nid yw'r refeniw - i greu'r elw mawr - yno mwyach ac mae swyddi yn cael eu colli rŵan er mwyn cadw cymaint â phosib. Mae hyn yn anfantais ddifrifol i newyddiaduraeth o safon ac i ddemocratiaeth. Ond

mae'n anochel y byddent yn cael eu haberthu er mwyn creu enillion rhesymol i ddeiliaid cyfranddaliadau (eto tu hwnt i’r ffin) er gwaethaf yr holl honiadau y bydd y safonau yn cael eu maethu a'u cynnal. Mae'n ffaith bod gennym gwmnïau Seisnig enfawr yn cyflenwi ein cyfryngau yng Nghymru a go brin ei bod yn syndod felly nad yw’r sefyllfa bresennol yn cyflawni ei bwrpas. Hefyd, mae hi’n werth tynnu sylw eto at sut mae’r Senedd ei hun yn cael ei thrin ar y cyfryngau Seisnig hyn – mae Cymru yn gorfod derbyn fersiwn ohoni ei hun trwy bersbectif y cyfryngau Saesneg. Er yr holl ddatblygiadau wedi datganoli a chyfrifoldebau cynyddol Llywodraeth Cymru, prin yw'r sylw y gellir ei ddisgrifio fel newyddiaduraeth go iawn lle gallwn weld olwynion democratiaeth ein gwlad yn troi. Llwm iawn yw’r arlwy ymchwiliadol sydd yn mynd o dan groen ein gwleidyddiaeth yma yng Nghymru ac mae’r ychydig drafodaeth wleidyddol Gymreig sydd i gael wedi’u cyfyngu i raglenni penodol ar amseroedd penodol. Mae gwleidyddiaeth Gymreig yn golledig i ran fwyaf ein poblogaeth yma yng Nghymru, yn yr iaith Gymraeg ac yn yr iaith Saesneg. Er mwyn sicrhau gwireddu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol rhaid i gwestiynu gwleidyddol fod yn gynhwysol yn ein holl gyfathrebiadau a dim yn ystyriaethau atodol ac ymylol. Prin iawn yw ein rhaglenni dogfen Cymreig a’n rhaglenni craffu Cymreig ac mae’r ychydig sydd yn bodoli wedi’u boddi ynghanol llif o ddeunydd Seisnig nad sydd hyd yn oed yn ymwybodol o’n bodolaeth fel cenedl, nac sydd ag unrhyw ddiddordeb ynddi.

Hoffwn weld y Pwyllgor hwn yn mynd i'r afael â’r cwestiwn o ba fath o reoliadau ac o strwythur sydd ei angen arnom i sicrhau newyddiaduraeth iach i bobol Cymru.

Awgrymir rai rheoliadau posibl yma: https://1drv.ms/w/s!Akod8OzjyRTzi3g5BEI9NLPaeC1Q?e=0pppy1

*Mae amryw o adroddiadau sydd wedi’u cynhyrchu gan Bwyllgorau’r Cynulliad a’r Senedd ar y maes hwn dros y ddau ddegawd diwethaf. Mae adroddiadau hefyd wedi’u cynhyrchu gan Y Sefydliad Materion Cymreig.

2. Radio Lleol Masnachol a Chymunedol

Mae diffygion enfawr ym maes Radio Lleol Masnachol a Chymunedol. Maent wedi cael eu gadael i fynd rhwng y cwn a’r brain – ac mae hyn wedi digwydd nid er gwaethaf rheoliadau Ofcom, ond yn hytrach gyda sêl bendith rheoliadau Ofcom.

Credwn ei bod hi’n hen bryd datganoli rheoliadau yn y maes hwn i'n Senedd ni, i ni gael penderfynu beth sy’n dderbyniol. Mewn ffordd credwn fod y maes hwn yn crisialu popeth sydd yn anghywir am gael y pwerau ym maes cyfathrebu yng Nghymru yn nwylo gwlad arall.

Gweler gybodaeth bellach ym mhwynt 3 y ddogfen: https://1drv.ms/w/s!Akod8OzjyRTzjWRkllrdVyOBSpPZ?e=9cYj78

Hoffwn weld y Pwyllgor hwn yn edrych ar y rheoliadau a fyddai’n addas i Gymru o ddatganoli rheoleiddio Radio a Theledu Lleol Masnachol a Chymunedol i'n Senedd.

3. Mynediad i'r Wê

Rhaid edrych ar ddiffygion Mynediad i'r Wê yn ein hardaloedd gwledig a’r angen i gryfhau’r ddarpariaeth, yn enwedig i'n pobl mwyaf difreintiedig ac mewn ardaloedd sy’n dioddef o dlodi gwledig. Ond yr hyn sydd yn hanfodol ydy edrych ar y rhesymau pam fod hyn wedi gallu digwydd.

Credwn na allwn fynd i wraidd y broblem hon heb ystyried effaith y ffainth nad yw y maes hwn wedi’i ddatganoli yn llwyr i’n Senedd.

Mae pwysigrwydd hyn yn ganolog – beth yw’r pwynt unrhyw ddatblygiad creadigol neu addysgol pellach os nad oes gan bawb gyfleon mynediad iddo? Mae hyn yn wir hefyd am wasanaethau sylfaenol sydd wedi symud fwy fwy ar y wê.

Gweler wybodaeth bellach ym mhwynt 3 o’r ddogfen: https://1drv.ms/w/s!Akod8OzjyRTzjWRkllrdVyOBSpPZ?e=9cYj78

Hoffwn weld y Pwyllgor hwn yn edrych ar sut i fynd ati i symud y pwerau hyn i'n Senedd gan edrych hefyd ar beth yw’r modelau posibl i ni fel cenedl.

4. Cynnwys Ar-lein

Law yn llaw â sicrhau mynediad i bawb i'r wê mae angen edrych ar beth yw’r cynnwys Cymreig a Chymraeg sydd ar gael yno a’i flaengarwch, gan edrych ymhellach ar sut gellir sicrhau lle manteisiol iddo yng Nghymru.

O ran sicrhau cynnwys, gweler yr ateb a gynigir gennym ym mwynt 4 yn y ddogfen, o dan ‘Sefydlu Endid Creu Cynnwys’: https://1drv.ms/w/s!Akod8OzjyRTzjWRkllrdVyOBSpPZ?e=9cYj78

Hoffwn weld y Pwyllgor yn ystyried sefydlu Endid o’r fath.

5. Buddion Economaidd Datganoli Darlledu

Mae darn o waith i'w wneud ar y buddion economaidd o ddatganoli darlledu. Er fod y buddion hyn yn amlwg i nifer ohonom, fel yr holl fuddion eraill amlwg a fyddai’n dod yn sgil datganoli darlledu, mae hi yn wastad o werth cynnal darn o waith i gefnogi.

Gwelir beth cefndir ym mhwynt 5 yma: https://1drv.ms/w/s!Akod8OzjyRTzjWRkllrdVyOBSpPZ?e=9cYj78

Hoffwn weld y Pwyllgor hwn yn cynnal darn o waith ymchwil o’r fath gan ystyried hefyd pa drethiant byddai angen ei ddatganoli i’w ariannu.

6. Grantiau

Mae miliynau o bunnau o arian pobol Cymru wedi cael ei roi fel grantiau i gwmniau cynhyrchu i ddod i Gymru, cwmniau fel Bad Wolf, sydd bellach ar werth.

Nid yw'r cwmniau hyn yn gynhenid Gymreig ac mae hynny wedi bod yn amlwg yn eu byd olwg, yn eu cynyrchiadau ac yn eu diffiniadau o 'lwyddiant'. Mae lle i ddadlau yn gryf nad yw'r cwmniau hyn wedi gwneud unrhyw gyfraniad i'n diwylliant ni fel cenedl, yn wir, gellir dadlau bod eu cyfraniad wedi bod yn andwyol i'n diwylliant gan hybu diwylliant gwlad arall ar ein traul.

Does dim dwywaith bod y camwedd hwn yn mynd i drio cael ei gyfiawnhau gan y ffaith i swyddi gael eu creu. Mae yna effaith economaidd anuniongyrchol wrth gwrs, oherwydd presenoldeb Bad Wolf, a’r gweithgarwch gan gwmniau eraill- sydd rhan fwya o gwmpas Caerdydd, ond yn gwneud dim i gyfrannu at ddiwydiant ffilm Cymreig. Yn anffodus hefyd, swyddi i'r rhai ar y grisie isaf mewn cynhyrchiad yw y rhain. Mae'r prif swyddi a'r perchnogion yn mynd a'r arian o Gymru. Ni ellir alw rhywbeth fel hyn yn fuddsoddiad.

Mae hyn felly yn awgrymu yn gryf, nid yn unig bod pobol Cymru wedi talu am yr effaith andwyol a negyddol ar ein diwylliant ond hefyd ein bod wedi gweld diffyg effeithiolrwydd economaidd ar raddfa sy'n sgandal wrth ystyried pa mor bell mae ein punt 'wedi mynd' (neu heb) a diffygion difrifol o ran gwariant cynaliadwy gan y Llywodraeth.

Mae angen bod llawer mwy eangfrydig a chael rhagolwg llawer mwy modern.

Hoffwn weld y Pwyllgor hwn yn edrych ar y diffygion ym mholisi y Llywodraeth yn hyn o beth ond gyda'r pwrpas clir ac adeiladol o wyrdroi polisi ac agweddau.

Hoffwn weld y Pwyllgor yn gwneud gwaith ar werth economaidd a diwylliannol (law yn llaw â'i gilydd) tymor hir buddsoddi mewn cwmniau cynhenid Cymreig.

Hoffwn weld y Pwyllgor hwn yn edrych ar yr amodau sydd angen bod ynghlwm â'r fath grant, gan gynnwys: bod rhaid i'r prif swyddi fod yng Nghymru; na ellir gwerthu'r cwmni o fewn pymtheg mlynedd heblaw fod y grantiau i'w had-dalu yn llawn gyda llog; bod rhaid i'r holl waith ôl-gynhyrchu ddigwydd tan y diwedd yng Nghymru; bod cap ar fuddsoddiad blynyddol; bod rhaid i ganran penodol o'r rhaglen/ffilm gael ei ffilmio yng Nghymru; gellir hefyd ystyried amodau o ran cynrychiolaeth ddiwyllianol Cymru oddi mewn i'r cynhyrchiad.

Gellir cydnabod, petasai grantiau o'r math hwn yn cael eu rhoi i gwmniau sydd yn gynhenid Gymreig, ffurfioldeb yn unig byddai'r amodau, gan mai dyma fyddai'n debygol o ddigwydd ta beth. Ac felly ar y cwmniau hyn y dylsai'r pwyslais fod yn y lle cyntaf.

Hoffwn weld y Pwyllgor hwn yn edrych ar y cyfleon fyrdd a ddaw wrth symud y pwyslais o fod yn denu cwmniau estron i Gymru yn y maes hwn i fod yn buddsoddi yn ein cwmniau cynhyrchu cynhenid gan ddatgloi gwir werth economaidd a diwyllianol y grant gan wirioneddol greu buddsoddiad tymor hir.

7. Y Gymraeg

Dros ddeugain mlynedd ar ôl eu sefydlu, i bob pwrpas, o hyd dim ond un sianel deledu Gymraeg, un gorsaf radio Gymraeg, monopoli ar newyddion ar y teledu ac ar y radio yn Gymraeg, gan gorfforaeth a’i phencadlys yn Llundain, does dim unrhyw reoliad ar baurau newydd Seisnig sy’n cael eu gwerthu yng Nghymru, nemor ddim rheoliadau am ddefnydd o’r Gymraeg ar radio lleol a bach iawn yw gweladwyedd y Gymraeg ar lein. Mi allaswn fynd ymlaen. Dyma sefyllfa’r Gymraeg pan fo’r pwerau darlledu yn gorwedd gyda gwlad arall.

Hoffwn weld y Pwyllgor hwn yn edrych ar sut i ddatblygu gwasanaethau ym mhriod iaith Cymru, gan sicrhau lluosogrwydd, ar amrywiol blatfformau a pha bwerau y bydd angen eu trosglwyddo o San Steffan i'r Senedd i gyflawni hyn.

8. Mwy o Reswm i Ddataganoli Darlledu

Mae’n edrych yn debyg i Lywodraeth Lafur y Senedd i ddim ond derbyn dau argymhelliad adroddiad diwethaf y Pwyllgor Diwylliant ar Ddatganoli Darlledu gan roi, fel y deallwn, fel rheswm mai dim ond grymoedd i weithredu ar yr argymhellion hyn (a ddim ar y lleill) sydd ganddynt.

Hoffwn weld y Pwyllgor hwn yn herio’r ‘rhesymeg’ honno. Os fod angen yr argymhellion eraill arnom hefyd i greu cenedl iachus, ddemocrataidd onid dadl

dros ddatganoli y pwerau hynny hefyd ydyw hyn, nid esgus i beidio gweithredu argymhellion pwysig?

9. Aildrefnu Ffiniau Etholiadol

Mae’n debygol bod ail drefnu yn mynd i fod ar ffiniau etholiadol San Steffan, gan effeithio ar Gymru drwy leihau ein cynrychiolaeth ddemocrataidd a’n llais yn San Steffan.

Hoffwn i'r Pwyllgor hwn sicrhau bod trafodaethau’r dyfodol yn digwydd yn y cyd-destun hwnnw – wrth i ni golli ‘llais’ yn y fan honno, onid naturiol ydyw i'n lleisiau democrataidd fod yn cynyddu yng Nghymru a grymoedd a chyfrifoldebau fod yn symud i'n Senedd?

10. Sut, nid Os

Hoffwn weld y Pwyllgor hwn yn symud yr agenda yn ei flaen a newid y cwestiynau sydd yn cael eu gofyn gan y Pwyllgor hwn. Dylsai cwestiynau y Pwyllgor hwn symud o ‘a ddylir ddatganoli darlledu?’ i ‘sut ac ar ba ffurf mae datganoli darlledu’ - dyma’r blaengaredd y teimlwn y dylsai’r Pwyllgor hwn fod yn ei ddangos yn ystod y tymor hwn.